|
Crynwyr Gogledd Cymru |
ENGLISH
E-bost crynwyr@ northwalesquakers. org.uk Cartref Cynghorion o Holiadau Cyrddau Crynwyr yng Ngogledd Cymru Dolenni: Crynwyr ym Mhrydain (BYM) Crynwyr Gogledd Orllewin Lloegr |
Cyflwyno'r Crynwyr
Cyflwyno'r Crynwyr?Yn wreiddiol llysenw oedd yr enw 'Crynwyr', - eu henw iawn yw Cymdeithas Greffyddol y Cyfeillion - ond bellach maent yn ddigon hapus i gael eu galw’n Gyfeillion neu'n Grynwyr.Grwp bychan yw Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion (tua 28000 o aelodau a mynychwyr ym Mhrydain, tua 800 yng Nghyrnru a llawer iawn mwy yn America ac yn Affrna). Fel grwp maent yn arddel syniadau arbennig ar ystyr crefydd ac yn enwedig ar ystyr Cristnogaeth. Gall unrhyw m fynychu un o’r Cyfarfodydd Addoli lleol. Ymhen y rhawg, os gwelant eu bed yn rhannu agwedda’r Cyfeillion, gallant ddod yn aelodau a chymryd mwy o ran ym mywyd y Gymdeithas. Yn ôl i'r brig Crynwyr a ChristnogaethCychwynnodd Crynwriaeth yn Lloegr yn ystod pum degau'r ail ganrif ar bymtheg, cyfnod y Weriniaeth. Daeth George Fox â gwahanol grwpiau o 'chwilwyr' ac anghydffurfwyr at ei gilydd. Teimlai'r rhain fod yr eglwysi, dros y canrifoedd, wedi arwain pobl ar gyfeiliorn, ymhell oddi wrth fwriad gwreiddiol Cristnogaeth ac wedi eu llyffetheirio gan draddodiad, defodaeth a gwleidyddiaeth grym, Ceisio adfer y weledigaeth oedd y Crynwyr. Ceisio byw yn symlach ac yn gywirach a dilyn esiampl yr lesu'n agosach. 'Does dim dwywaith fod gwreiddiau Crynwriaeth mewn Cristnogaeth ac mae llawer o Grynwyr heddiw yn seilio eu ffydd ar ddysgeidiaeth yr lesu. Ar y llaw arall mae iaith draddodiadol grefyddol yn rhwystr i rai Crynwyr amgyffred eu profiadau mewnol. Mae’r rhai hynny yn edrych i lygad ffynnon Crisnogaeth ac hefyd y tu hwnt i hynny. Heb yr offeiriaid arferol ac heb y gwasanaethau a’r credoau mae'r Gymdeithas yn ymddangos yn wahanol iawn I’r grwpiau Cristnogol eraill. Yn ôl i'r brig Ydy Crynwriaeth yn grefydd neu'n agwedd at grefyddDiben crefydd yw ein cynorthwyo i ddod o hyd i ystyr yn ein bywydau, cyrraedd y realiti gwaeiodol, y gwirionedd na ellir ei fynegi ac ar yr un pryd dod â phobl at ei gilydd mewn cymuned. Dros y canrifoedd bu'r egiwysi'n ymdrechu i gynorthwyo pobloedd i amgyffred y rhyfeddol mewn pethau cyffredin, neu, a'i roi mewn ffurf Grynwrol, i ddarganfod rhywbeth o Dduw yn ein bywyd pob dydd. Mae'r Crynwyr yn derbyn y gall pob un o'r prif grefyddau eraill arwain at fodlonrwydd ysbrydol. Ond i’r Crynwyr mae'r amgyffred Grynwrol o grefydd yn gymorth di-hafal ac ysbrydoledig. Yn ôl i'r brig Be mae'r Crynwyr yn ei gredu?Holi a chwestiynu popeth a ddywedir wrthynt ei gredu yw un o nodweddion y Cyfeillion. Mae hynny'n rhan o'u hen arfer o 'chwilio am y gwirionedd'. Hanfod yr agwedd honno yw eu profiad fod cysylltiad uniongyrchol rhwng pob unigolyn a Duw - er fod y Crynwyr yn defnyddio amrywiaeth o dduliiau ac o eiriau wrth geisio gwneud yr amhosibl, sef disgrifio ‘Duw’. Yn y pen draw mae'n rhaid i bob unigolyn ddod o hyd i'w lwybr ei hun at wirionedd crefyddol, at yr yrnwybyddiaeth o fodolaeth Duw yn ei fywyd neu ei bywyd. I wneud hynny mae angen defnyddio doethineb y gorffennol fel y'i ceir mewn amrywiaeth o lyfrau crefyddol a chyrnharu profiadau personol gyda phrofiadau rhai eraill yn y cwrdd. Yn ôl i'r brig Iesu a’r BeiblLle mae'r lesu'n dod i mewn i hyn i gyd? 'Dyw'r Crynwyr ddim yn treilio llawer o amser yn trin a thrafod diwinyddiaeth - er engraifft, ym mha ystyr yr oedd Iesu'n 'fab Duw’. Agwedd y Crynwyr yw mai’r hyn sy'n bwysig yw dysgu oddi wrth fywyd a dysgeidiaeth yr lesu - ac wedyn bwrw ymlaen o'r fan honno. Yma, ym Mhrydain. mae'r rhan fwyaf o'r Cyfeillion yn ystyried y Beibl fel y ffynhonnell ysbrydol bwysicaf un - ond, nid chwaith, yr unig ffynhonell. Maent yn darllen y Beibl ochr yn ochr â llyfrau eraill, hen a newydd, sy'n cynnig arweiniad a chyfarwyddyd. Ond 'dyw’r Cyfeillion ddim ymysg y rhai sy'n amgyffred am lyfrau 'sanctaidd' fel ‘Gair Duw’. I'r Crynwyr mae'r llyfrau hynny yn cynnwys gormod o wrth-ddweud sydd yn ddyrys ac yn anirnadwy. Cymorth yw ysgolheictod ddiweddar i'r Crynwyr, wrth iddynt fynd i’r afael â'r Beibl a llyfrau mawr eraill. Mae gan y Crynwyr gredoau ac agweddau ar y cyd ond 'does dim modd rhestru'r credoau hynny a'u defnyddio fel maen prawf aelodaeth o'r Gymdeithas. Mae'r Cyfeillion yn hoff o sôn am y'golau mewnol' sydd yn bodoli ym mhob bod dynol. I rai nid yw hyn yn ddim namyn 'cydwybod' neu 'ymwybyddiaeth foesol', ond i'r Cyfeillion mae'n fwy na hynny: mae'n rhan o'r profiad ysbrydol a chrefyddol ac yn cynnig arweiniad ar daith bywyd. Yn ôl i'r brig Dim Cymun, dim gwasanaeth?Os oes rhywbeth o Dduw yrn mhob bod dynol - ac ym mhob man ac ym mhob peth - yna, 'does dim angen dyddiau gwyl na seremon?au na sagrafenau fel bedydd a chymun. Yn yr un modd nid yw'r Ty Cwrdd yn adeilad cysegredig : gellir ei ddefnyddio ar gyfer cerddoriaeth, bwyta, trafodaeth a diddanwch lawn cymaint ag ar gyfer addoliad. I’r Crynwyr nid oes unrhyw ffin, unrhyw derfyn yn bodoli rhwng crefydd a bywyd pob dydd. Mae popeth, gan gynnwys llawenydd a thristwch, y da a'r drwg, yn rhan o fywyd, yn rhan o ddysgu a thyfu. Dyma ddywedodd un o'r Cyfeillion cynnar am ei brofiad o addoli yn null y Crynwyr. "Teimlais y drwg ynof yn gwanhau a'r da yn cael ei ddyrchafu”. Efallai mai dyna pam y mae'r Crynwyr, yn amlach na pheidio, yn oddefgar ac yn obeithiol. Yn ôl i'r brig Y Nod - Y Baglu a’r Methu.Gan fod y Crynwyr yn credu fod' Rhywbeth o Dduw' ym mhob bod dynol, eu nod yw dod o hyd i’r 'rhywbeth' hwnnw yrn mhawb - yn y rhai annwyl ac yn y rhai anystywallt, yn yr hen a’r ifainc, yn y du a’r gwyn, yn y tlawd ac yn y cyfoethog, mewn dynion a merched, yn y gwahanrywiog a'r hoyw. Dyna, i’r Crynwyr, yw ystyr caru Duw a charu ein gilydd. Maent yn ceisio byw yn weddol syml: peidio â rhoddi gormod o bwys ar arian, ar feddiannau neu statws, a pheidio â cholli golwg ar be sydd yn wirioneddol bwysig. Mae'r Crynwyr yn cael llawer o bleser a diddanwch allan o fywyd ond peidiwch â disgwyl eu canfod yn gamblio, yn yfed yn ormodol neu'n defnyddio cyffuriau. 'Dyw'r Crynwyr chwaith ddim yn debyg o fod ag unrhyw ran mewn ecsbloitio economaidd nac chwaith mewn gemau grym rhyngwladol a byd busnes. Yn ôl i'r brig Y Cyfarfod AddoliNid peth hawdd yw bod yn'chwiliwr' ar eich pen eich hun. Yn y Cyfarfod Addoli mae'r Cyfeillion yn rhannu eu profiadau y naill gyda'r liall ac yn elwa yn y modd hwnnw. Os gall pawb gael cysylltiad personol ac uniongyrchol â Duw ‘does dim angen offeiriad i weithredu fel cyfryngwr ac felly 'does gan y Cyfeillion ddim offeiriad na gweinidogion (mae'r aelodau'n rhannu'r gwaith ymarferol ymysg ei gilydd). Profiad y Cyfeillion yw y gellir ymglywed â'r cymundeb yma â Duw mewn distawrwydd heb unrhyw gynllunio na pharatoi ymlaen llaw. Mae'r Cyfarfod Addoli yn hollol symi : eistedd mewn distawrwydd. Gall y distawrwydd ar brydiau fod yn rymus a dwfn, cysylltiad uniongyrchol rhwng yr unigolyn a Duw. Efallai y bydd un o'r Cyfeillion yn sefyll ac yn siarad neu weddio neu ddarllen o'r Beibl neu lyfr arall. Ond hanfod y Cyfarfod Addoli yw distawrwydd; ac mae'r Cyfarfodydd rheolaidd yn rhan bwysig o fywyd y Crynwyr. Yn ôl i'r brig Yr hyn mae’r Cyfeillion yn ei wneudI’r Crynwyr mae'r profiad mewnol yn bwysig. Hwnnw, ym marn y Cyfeillion, sy'n rheoli rhawd ein bywydau, ac os na all y profiad wneud hynny pa ddiben sydd iddo? 'Does dim pwrpas mewn bod â ffydd heb weithredu ar sail y ffydd honno. Bu gonestrwydd wrth eu gwaith yn un o nodweddion y Crynwyr o'r cychwyn cyntaf (ac i lawer o fusnesau'r Crynwyr bu'r polisi hwnnw'n effeithiol ac yn Ilwyddiannus effeithiol). Mae gonestrwydd yn hanfodol bwysig ym marn y Crynwyr. Dyna pam y gwrthodant gymryd llw mewn llys barn. Byddai cymryd llw yn awgrymu y gellir gweithredu gwahanol safonau o onestrwydd dan wahanol amgylchiadau. O'r cychwyn cyntaf hefyd bu gan y Crynwyr gonsyrn arbernig ynghylch amgylchiadau cymdeithasol ac ynghylch yr amgylchedd, Bu ganddynt ran amlwg mewn estyn cymorth i gaethweision, carcharorion, ffoaduriaid, a'r henoed, a cychwynwyd amryw a elusenau ac ymgyrchoedd dyngarol o ganlyniad i gonsyrn ymysg y Crynwyr. Yn anad dim arall mae'r Crynwyr yn mynnu fod canlyn dysgeidiaeth a bywyd yr lesu'n golygu ymwrthod â rhyfel fel dull o ddatrys problemau. Maent yn mynnu ceisio cysylltu â‘r hyn sydd o Dduw ym mhob person. Dros y blynyddoedd bu’r Cyfeillion yn gweithio mewn gwahanol ffyrdd o blaid heddwch. Mewn gwahanol ddinasoedd ar hyd a lled y byd, mae ganddynt ganolfannau lle gall diplomyddion ddod ynghyd i drin a thrafod problemau. Mae yna hefyd amryw o brosiectau rhyngwladol sydd yn dod â phobl ifanc o wahanol wledlydd a chefndiroedd at ei gilydd. Dywedodd William Penn, sefydlydd talaith a fu'n bodoli am 75 o flynyddoedd heb unrhyw fath o fyddin, na ddylai duwioldeb droi pobl o'r byd ond yn hytrach eu galluogi i fyw yn y byd. Ydy hyn yn nod amhosibl i ymgyrraedd tuag ato? Mae'r Crynwyr yn credu ei fod yn bosibl, ac, yn y byd sydd ohoni, yn credu fod cyrraedd y nod yn angenrheidiol. Yn ôl i'r brig Holi ymhellachEfallai fod gan eich llyfrgell leol iyfrau ar y Crynwyr. Yno hefyd cewch wybodaeth am y mannau Cyfarfod Addoli agosaf. Byddai croeso ichi mewn Cyfarfod Addoli a medrai’r Cyfeillion yno ateb eich cwestiynau a'ch helpu ymhellach. |